home . adra
| swn . sound | shop. siop |
pwy . who| past . gorffennol

 

 

Seindorff | Arvonia

5" CD in a homemade fold-out digipak with insert | £10 incl. P&P
CD 5" mewn pecyn digipak wedi ei wneud a llaw | £10 yn cynnwys P&P

SEINDORFF is a collaboration between Geraint Ffrancon (High Quality Recordings, Stabmaster Vinyl, Blodyn Tatws and a host of other projects) and William Cnicht (aka Haydon Hughes, Pappy, Y Pencadlys). Both originally hail from the ancient mystical kingdom of Arvonia in North-west Wales, which provides the album's title - as well as the name of the local bus company.

The two halves of Seindorff first met at Bangor Swimming Pool aged three. Whilst growing up they gradually lost touch with one another, only to be reaquainted a quarter of a century later. Geraint and William discovered a shared passion for producing esoteric music of all kinds, and Seindorff was born.

Although their debut can most definitely be described as an electronic album, the narrative is also alive with a host of other influences and all manner of instrumentation making the unlikeliest of appearances - guitars, pedal steel, harmonica, tin whistle, kazoo, accordion, zither, and human voices all feature.

Seindorff's sound lies somewhere between the cool electronic pop of Kraftwerk and the unremitting lunacy of Captain Beefheart circa Trout Mask Replica. 'Arvonia' encompasses electronica ('Lux, 'Menai'), bitcrush reggae breakcore ('QY Reggae'), neo-drum'n'bass ('Peninsula Bling'), tango ('Traed Brian'), freaky toy music ('Tretegana'), insanity ('Roast Poodles', 'Peth Bach Handi), and explicit flirting with the defiantly naff ('Lembo').

Tracks from the album have already been aired by Rob Da Bank on Radio 1 and Huw Stephens on Radio Cymru. The band recently made their first ever live appearance, headlining this year's National Eisteddfod in Cardiff.

 

Cydweithiad yw SEINDORFF rhwng Geraint Ffrancon (Recordiau Safon Uchel, Stabmaster Vinyl, Blodyn Tatws a llu o brosiectau eraill) a William Cnicht (aka Haydon Hughes, Pappy, Y Pencadlys). Mae'r ddau'n hanu'n wreiddiol o deyrnas oruwchnaturiol Arfonia yng Ngogledd Cymru, lle sy'n gyfrifol am deitl yr albym - yn ogystal ag enw'r cwmni bysus lleol.

Cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf ym mhwll nofio Bangor, Gogledd Cymru, pan oeddent yn dri oed. Chwarter canrif yn ddiweddarach cyfarfu'r ddau unwaith eto, a darganfod eu bod yn rhannu diddordeb mewn creu cerddoriaeth esoteric o bob math.

Er y gellir disgrifio 'Arvonia' fel albym electroneg, mae'r traethawd hon hefyd yn frith a dylanwadau eraill gydag offerynnau di-ri yn ymddangos - gitars, pedal dur, harmonica, chwib tin, kazoo, acordion, sither, a lleisiau.

Mae swn Seindorff wedi'i angori rywle rhwng pop electroneg cwl Kraftwerk a gwallgofrwydd di-baid Captain Beefheart yn ystod cyfnod Trout Mask Replica. Mae 'Arvonia' yn cynnwys electronica ('Lux, 'Menai'), reggae hardcôr ('QY Reggae'), neo-drym'a'bas ('Peninsula Bling'), tango ('Traed Brian'), synnau teganau od ('Tretegana'), gwallgofrwydd ('Roast Poodles', 'Peth Bach Handi) a fflyrtio herfeiddiol a synau naff ('Lembo').

Mae traciau o'r albym eisioes wedi eu chwarae gan Rob Da Bank ar Radio 1 a Huw Stephens ar Radio Cymru. Mae'r band newydd chwarae eu gig cynta' erioed, yn Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd.